Philip Bridger – SRA Intervention

Friday 14th June 2024

Intervention into Philip Bridger

On 31 May 2024 the Solicitors Regulation Authority (‘SRA’) intervened into the practice of Philip Bridger. As a result of the intervention Mr Bridger’s practising certificate is suspended and he can not continue to act as a solicitor. Mr Bridger can apply to the SRA to have his practising certificate reinstated. If his practising certificate is reinstated, this decision will be published on the SRA’s website.

We are aware that Mr Bridger is currently working at a business called PB Law from offices where Bridger & Co Solicitors previously practised. PB Law is not regulated by the Solicitors Regulation Authority and Mr Bridger cannot practise as a solicitor.

What does this mean?

If Mr Bridger was acting for you in his personal capacity, you will need to instruct a new solicitor.

If you  need help finding a new solicitor you can  search for a new solicitor on the Law Society’s Find a Solicitor site, or you can call the Law Society on 020 7320 5650 Monday to Friday from 09:00 to 17:00.

The intervention into Mr Bridger’s personal practice does not affect the practice of Bridger & Co (in liquidation).

What has happened to Bridger & Co Limited?

On 15 December 2023, Siann Huntley of Leonard Curtis was appointed as liquidator of Bridger & Co Limited (‘Bridger & Co’) Any queries regarding the liquidation into Bridger & Co should be directed to Leonard Curtis at recovery@leonardcurtis.co.uk or 01179 294900.

The SRA’s intervention into the practice of Philip Bridger is separate from and does not affect the liquidation.

How do I get documents that were held by Bridger & Co?

Documents previously held by Bridger & Co are now in the control of Leonard Curtis. Should you wish to contact Leonard Curtis regarding your documents they can be contacted at recovery@leonardcurtis.co.uk

Bridger & Co were holding money for me. What should I do?

If you believe Bridger & Co were holding money for you at the time they went into liquidation, you should contact Leonard Curtis, if you have not already done so.

How can I get more information about the intervention into Philip Bridger’s practice?

You can:

—————————————————————————————————————————————————————————————————————————————————————–

Penderfyniad – Cau

Canlyniad: Ymyriad

Dyddiad y canlyniad: 31 Mai 2024

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2024

Manylion y ffyrm

Y ffyrm neu’r sefydliad ar y dyddiad cyhoeddi ac adeg y materion sy’n arwain at y canlyniad

Enw: Bridger & Co Limited (mewn datodiad)

Cyfeiriad(au): Old Bank Chambers, 35 High Street, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3DL

ID y Ffyrm: 615318

Manylion y canlyniad

Daethpwyd i’r canlyniad hwn drwy benderfyniad gan yr SRA.

Manylion y penderfyniad

I ymyrryd ym mhractis Philip Bridger.

Rhesymau/sail
  • Mae lle i amau anonestrwydd gan Mr Bridger fel cyfreithiwr mewn cysylltiad â’i bractis – paragraff 1(1)(a)(i) o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfreithwyr 1974.
  • Mae angen ymyrryd er mwyn diogelu buddiannau cleientau neu gyn-gleientau Mr Bridger – paragraff 1(1)(m) o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfreithwyr 1974.
Gwybodaeth arall

Mae’r ymyriad yma yn ymwneud â ffeiliau cleientau ac unrhyw arian sydd ym meddiant Mr Bridger. Nid yw’r ymyriad yn cynnwys practis Mr Bridger yn Bridger & Co Limited, sy’n cael ei ddirwyn i ben gan y datodwr.

Datodwr Bridger & Co Limited yw Siann Huntley o Leonard Curtis Recoveries Limited.

Asiantau ymyrryd

Mae John Owen o Gordons LLP, 1 New Augustus Street, Bradford, BD1 5LL wedi’i benodi’n asiant ymyrryd.

Ar gyfer ymholiadau, ffoniwch 0113 227 0391 neu anfonwch at intervention@gordonsllp.com

Philip Bridger

Ymyriad ym mhractis Philip Bridger

Ar 31 Mai 2024 ymyrrodd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (‘SRA’) ym mhractis Philip Bridger. O ganlyniad i’r ymyriad mae tystysgrif ymarfer Mr Bridger wedi’i hatal ac nid yw’n cael parhau i weithredu fel cyfreithiwr. Caiff Mr Bridger wneud cais i’r SRA am adfer ei dystysgrif ymarfer. Os caiff ei dystysgrif ymarfer ei hadfer, bydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr SRA.

Beth yw ystyr hyn?

Os oedd Mr Bridger yn gweithredu ar eich rhan chi yn rhinwedd ei swyddogaeth bersonol, fe fydd angen ichi gyfarwyddo cyfreithiwr newydd.

Os oes arnoch chi angen help i ddod o hyd i gyfreithiwr newydd gallwch chwilio am gyfreithiwr newydd ar wefan Find a Solicitor Cymdeithas y Cyfreithwyr, neu gallwch ffonio Cymdeithas y Cyfreithwyr ar 020 7320 5650 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00.

Nid yw’r ymyriad ym mhractis personol Mr Bridger yn effeithio ar bractis Bridger & Co (mewn datodiad).

Bridger & Co

Beth ddigwyddodd i Bridger & Co Limited?

Ar 15 Rhagfyr 2023, penodwyd Siann Huntley o Leonard Curtis yn ddatodwr ar gyfer Bridger & Co Limited (‘Bridger & Co’) Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch datod Bridger & Co gael eu cyfeirio at Leonard Curtis yn recovery@leonardcurtis.co.uk.

Mae ymyriad yr SRA ym mhractis Philip Bridger yn wahanol i’r datodiad ac nid yw’n effeithio ar y datodiad.

Sut mae cael dogfennau oedd yn cael eu dal gan Bridger & Co?

Mae dogfennau a oedd yn cael eu dal yn flaenorol gan Bridger & Co bellach o dan reolaeth Leonard Curtis. Os hoffech gysylltu â Leonard Curtis ynglŷn â’ch dogfennau, gellir cysylltu â nhw drwy recovery@leonardcurtis.co.uk

Roedd Bridger & Co yn dal arian ar fy rhan i. Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi’n credu bod Bridger & Co yn dal arian ar eich rhan ar yr adeg y cawsant eu datod, dylech gysylltu â Leonard Curtis, os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod.

Sut mae cael rhagor o wybodaeth am yr ymyriad ym mhractis Philip Bridger?

 Gallwch chi: